BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Age at Work

Mae'r gweithlu yn y DU yn newid yn gyflym ac mae angen i chi weithredu nawr i ddatgloi cyfleoedd timau aml-genhedlaeth. Erbyn 2030 bydd hanner holl oedolion y DU dros 50. Mae deall heriau a chyfleoedd poblogaeth sy'n heneiddio yn hanfodol os rydym eisiau creu timau aml-genhedlaeth cynhyrchiol, arloesol a chynhwysol wrth i ni i gyd fyw bywydau gwaith hirach.

Mae Age Cymru eisiau annog a chefnogi busnesau i adeiladu gweithleoedd oedran-gyfeillgar lle gall gweithwyr hŷn ffynnu ac maent wedi ffurfio partneriaeth â Business in the Community (Cymru) i gefnogi cyflogwyr drwy'r rhaglen Age at Work.

O dan linynnau allweddol cadw, ailhyfforddi a recriwtio, bydd Age at Work yn gweithio gyda chyflogwyr i ddatblygu gweithle mwy cynhwysol o ran oedran a deall manteision gweithlu sy’n pontio’r cenedlaethau. Bydd hefyd yn cefnogi gweithwyr hŷn (50 oed a hŷn) sydd eisiau parhau mewn gwaith. Mae'n amlygu’r angen i ddechrau paratoi ar gyfer gwaith yn ddiweddarach mewn bywyd ac ymddeol yn gynharach.

Drwy Age at Work, mae gan gyflogwyr fynediad at ystod o becynnau cymorth, rhwydweithiau a chefnogaeth am ddim i helpu i lywio'r camau maen nhw'n eu cymryd i greu gweithle sy'n well i weithwyr aeddfed ac a fydd o fudd i weithwyr o bob oed.

Cynhelir gweminarau adolygu canol gyrfa, a fydd yn ymwneud ag iechyd, lles a chyllid rhwng mis Awst 2022 a mis Rhagfyr 2022. 

I gael mwy o wybodaeth, ewch i Age Cymru ¦ Age at Work (ageuk.org.uk)
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.