BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Ail-lansio Bwyd dros Ben ag Amcan Cymru

Mae’n bleser gan FareShare Cymru gyhoeddi bod Cronfa Bwyd dros Ben ag Amcan Cymru ar agor ar gyfer ceisiadau gan fusnesau bwyd a diod o bob maint, sector a lleoliad yng Nghymru.

Ar ôl llwyddiant y cyllid cychwynnol, mae FareShare Cymru wedi derbyn ail rownd o gyllid gan Lywodraeth Cymru i wneud llwyth o les i nifer aruthrol o bobl ledled Cymru.

Er enghraifft, gallai ffermwr neu dyfwr cynnyrch ffres wynebu costau o gynaeafu cnydau sydd y tu hwnt i'w gofynion masnachol - gall cronfa Dros Ben ag Amcan Cymru dalu'r costau hyn yn gyfan gwbl drwy dalu costau llafur ychwanegol. 

Gallai gwneuthurwr bwyd wynebu costau yn sgil cwtogi cyfeintiau bwyd maint arlwyo neu labelu cynhyrchion heb eu labelu i'w gwneud nhw’n barod i'w rhoi a'u dosbarthu ar gyfer FareShare Cymru – gall cronfa Dros Ben ag Amcan Cymru dalu'r costau hyn, gan gynnwys llafur a phecynnu.

Gall fod gan cyfleusterau pecynnu bwyd neu ganolfannau dosbarthu stoc oes byr, diwedd hyrwyddiad neu stoc tymhorol y maen nhw eisiau ei roi i achos da ond y byddent yn wynebu costau cludo i FareShare Cymru - gall cronfa Dros Ben ag Amcan Cymru dalu am y rhain a thalu am gostau eu cludo. 

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol https://fareshare.cymru/cy/bwyd-dros-ben-ag-amcan/


 


 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.