Eisiau gwybod sut bydd ymuno â’r Chwyldro Ail-lenwi o fudd i’ch busnes?
Gwyliwch y ffilm fer hon i wybod mwy: Mae cael eich cynnwys ar yr ap Ail-lenwi yn eich cysylltu â miloedd o ddefnyddwyr yr ap yng Nghymru sy’n chwilio am lefydd lle gallant ail-lenwi eu poteli dŵr yn rhad ac am ddim.
Rhowch eich tap ar y map a manteisio ar fwy o sylw, cynnydd yn nifer yr ymwelwyr â’ch busnes, a chyfle i ddangos i’ch cwsmeriaid eich bod yn mynd i’r afael â llygredd plastig!
Cofrestrwch eich busnes yn rhad ac am ddim fel Gorsaf Ail-lenwi ar yr ap Ail-lenwi ac ymuno a’r Chwyldro Ail-lenwi! Gyda’n gilydd, gallwn ni helpu i fynd i’r afael â’r broblem o lygredd poteli plastig untro.
Gallwch ddysgu mwy ar Ail-lenwi Cymru | Ail-lenwi | Cenedl Ail-lenwi gan Lywodraeth Cymru a dysgu sut i gymryd rhan yma