BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Allai’ch busnes fod yn Fusnes Bach Disglair y Nadolig yma?

Mae’r platfform codi arian Work for Good yn lansio ymgyrch cyllid cyfatebol Small Business Star i helpu busnesau bach i godi mwy o arian nag erioed i elusennau'r Nadolig hwn.

Bydd yr ymgyrch #SmallBusinessStar yn dyblu rhoddion rhwng 1 a 31 Rhagfyr 2020, hyd at werth £500 y busnes.

Bydd angen i fusnesau bach gofrestru ar gyfer Work for Good a rhoi addewid i roi cyfran o werthiant eu cynhyrchion neu eu gwasanaethau i elusen o’u dewis.

Ar ôl cofrestru, gall busnesau bach ddechrau eu hymgyrch Codi Arian Elusen Nadolig #SmallBusinessStar

Rhowch gyhoeddusrwydd o’r ymgyrch i’ch cwsmeriaid a chleientiaid drwy ddefnyddio cyngor o’r pecyn adnoddau - cliciwch yma i lawrlwytho'r pecyn adnoddau.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.