BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Allforio – Helpwch eich busnes i dyfu!

Gall allforio drawsnewid eich busnes. P’un a ydych yn newydd i fasnachu dramor neu’n allforiwr profiadol, mae ystod o offerynnau a gwasanaethau ar gael i’ch cefnogi lle bynnag yr ydych chi ar hyd eich taith allforio. 

Yr Hwb Allforio: Adnodd ar-lein rhad ac am ddim yn cwmpasu pob agwedd ar fewnforio. Mae’r Hwb yn cynnwys llawer iawn o wybodaeth i’ch helpu i archwilio marchnadoedd tramor, dod o hyd i gleientiaid newydd, sicrhau cydymffurfedd yn y farchnad, cael eglurhad ynglŷn â thollau mewnforio a mwy. 

Fe welwch y canlynol hefyd:

  • Dros 190 proffil gwlad manwl
  • 25,000 o adroddiadau marchnad
  • 12,000 o sioeau masnach
  • cronfeydd data yn cynnwys mwy na miliwn o fewnforwyr a chyflenwyr
  • canllawiau, offerynnau a syniadau, yn cynnwys rhestrau gwirio ar gyfer dod o hyd i bobl mewn rolau cyfatebol, allforio i farchnadoedd datblygol, a chydymffurfio â rheoliadau masnach

Grant Hyfforddiant Allforio: Gwellwch allu eich busnes i allforio gyda’r Grant Hyfforddiant Allforio. O dan y grant, cynigir cyllid 50% hyd at £25,000, ac mae’n cynnwys y meysydd canlynol: Cyllid, Gwerthu a Marchnata, Prosesau a Gweithdrefnau Tollau, Prosesau Allforio, Ymwybyddiaeth o’r Farchnad a Chymorth, Arweinyddiaeth a Rheolaeth Arbenigol. Gellir cael gwybodaeth lawn drwy glicio ar y ddolen Grant Hyfforddiant Allforio 

Cyrsiau Allforio Ar-lein: Mae ystod o gyrsiau byr ar gael i’ch helpu ar hyd eich taith allforio. Mae’r pynciau canlynol ar gael ar hyn o bryd:

  • Cyflwyniad i allforio
  • Elfennau allweddol allforio
  • Canllaw canolradd ar allforio
  • Marchnata rhyngwladol
  • Allforio ar gyfer cwmnïau gwasanaeth
  • Allforio drwy e-fasnach 

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.