BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Allwch chi hawlio’r Bonws Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws o 15 Chwefror 2021?

Edrychwch i weld a ydych chi’n gymwys i hawlio’r *Bonws Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws a beth sydd angen i chi ei wneud i’w hawlio rhwng 15 Chwefror 2021 a 31 Mawrth 2021.

Edrychwch:

  • pwy all hawlio
  • y gweithwyr y gallwch chi hawlio amdanynt
  • y trothwy isafswm incwm
  • sut i baratoi ar gyfer hawlio
  • cysylltu â CThEM

Os yw CThEM yn dal i wirio eich ceisiadau o dan y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws, gallwch hawlio’r Bonws Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws hefyd ond efallai y bydd eich cais yn cael ei oedi hyd y cwblheir y gwiriadau hynny.

Ni fydd CThEM yn talu’r bonws os ydych chi wedi gwneud cais anghywir am y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws ac nad oedd eich gweithiwr yn gymwys am y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.

*Ni thelir y Bonws Cadw Swyddi ym mis Chwefror mwyach, gan fod Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws wedi'i ymestyn tan ddiwedd mis Mawrth 2021. Mae rhagor o fanylion am yr estyniad ar gael.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.