BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Amddiffyn eich gweithwyr rhag trais ac ymddygiad ymosodol

Gall trais ac ymddygiad ymosodol yn y gwaith gael effaith ddifrifol ar iechyd corfforol ac iechyd meddwl eich gweithwyr.  

Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) wedi adnewyddu ei ganllawiau ar drais yn y gwaith i'ch helpu i amddiffyn eich gweithwyr. 

Mae wedi cael ei ddiweddaru i:

  • symleiddio'r llywio i'ch helpu i ddod o hyd i'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch yn hawdd
  • dileu hen gynnwys a rhoi arweiniad ymarferol cyfredol yn ei le
  • eich atgoffa bod diffiniad yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch o drais yn cynnwys ymddygiad ymosodol, fel cam-drin geiriol neu fygythiadau – gall hyn fod wyneb yn wyneb, ar-lein neu dros y ffôn 

Bydd y canllawiau yn eich helpu i asesu'r risgiau, rhoi'r rheolaethau cywir ar waith i ddiogelu gweithwyr a rhoi gwybod am ddigwyddiadau a dysgu oddi wrthyn nhw.

Mae arweiniad penodol ar sut i gefnogi eich gweithwyr ar ôl digwyddiad treisgar. Caiff enghreifftiau eu hamlygu o sefyllfaoedd nodweddiadol hefyd

Mae cyngor ar wahan i weithwyr, sy'n esbonio sut y gallan nhw helpu cyflogwyr i atal digwyddiadau treisgar yn y gwaith.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Violence and aggression at work - HSE


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.