BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Amser i fod yn #WeatherReady ar gyfer misoedd yr haf

Gall meddwl ymlaen llaw a pharatoi ar gyfer yr hyn y gallai'r tywydd ei gynnig wneud gwahaniaeth go iawn. Mae rhai camau syml y gallwch eu cymryd i gadw'n ddiogel ac yn iach yr adeg hon o'r flwyddyn – o baratoi eich cartref neu eich busnes i ofalu amdanoch chi eich hun, eich teulu a'ch cymdogion. 

Mae gan y Swyddfa Dywydd gyngor ac arweiniad gan gynnwys:

I ddarganfod mwy am beth y gallwch ei wneud i baratoi ar gyfer unrhyw fath o dywydd, cliciwch ar y ddolen ganlynol WeatherReady - Met Office 

I gael cyngor am lifogydd yng Nghymru, ewch i Cyfoeth Naturiol Cymru Cyfoeth Naturiol Cymru / Llifogydd

Gweithio mewn tymheredd poeth

Nid oes unrhyw gyfraith ar gyfer y tymheredd uchaf ar gyfer gweithio, neu pan mae'n rhy boeth i weithio, oherwydd mae pob gweithle’n wahanol.

Fodd bynnag, mae'n rhaid i gyflogwyr gadw at gyfraith iechyd a diogelwch yn y gwaith. I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Is it too cold or hot to work? (hse.gov.uk)

 

 

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.