BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Amser wedi'i osod ar gyfer profi Rhybuddion Argyfwng y DU

Bydd prawf y DU gyfan o'r system Rhybuddion Argyfwng cyhoeddus i achub bywydau yn cael ei gynnal am 3 o’r gloch ddydd Sul 23 Ebrill 2023.

Bydd y prawf o’r system Rhybuddion Argyfwng newydd yn golygu y bydd pobl yn derbyn neges ar ffonau symudol 4G a 5G, ynghyd â sain a dirgryniad am hyd at 10 eiliad.

Ar gyfer y prawf, nid oes angen i'r cyhoedd gymryd unrhyw gamau - bydd y sain a'r dirgryniad yn stopio'n awtomatig ar ôl deg eiliad. Y cyfan sydd angen i bobl ei wneud yw clirio'r neges neu glicio 'OK' ar sgrin gartref eu ffôn - yn union fel ar gyfer rhybudd neu hysbysiad 'batri isel' - a pharhau i ddefnyddio eu ffôn yn ôl yr arfer.

Mae Rhybuddion Argyfwng yn galluogi darlledu negeseuon brys i ardal ddiffiniedig pan fydd perygl i fywyd ar fin digwydd, fel tanau gwyllt neu lifogydd difrifol. 

Cewch fwy o wybodaeth am Rybuddion Argyfwng, gan gynnwys sut maen nhw'n edrych ac yn swnio, ar Am Rybuddion Argyfwng - GOV.UK (www.gov.uk)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.