Mae cynllun ad-daliad TAW yn annog amgueddfeydd ac orielau i ddarparu mynediad am ddim ac agor mynediad at waith mewn casgliadau.
Mae amgueddfeydd ac orielau yn cael eu hannog i wneud cais am ad-daliadau TAW i gefnogi agor yn rhad ac am ddim fel rhan o gynlluniau i hybu nifer yr ymwelwyr a rhoi mynediad at y celfyddydau a diwylliant i fwy o bobl.
Gall unrhyw amgueddfa ac oriel sydd ar agor i'r cyhoedd am ddim am 30 awr yr wythnos wneud cais. Bydd yn helpu sefydliadau i roi hwb i'w cyllid ac i agor eu casgliadau’n fwy rheolaidd.
Roedd y Cynllun Ad-daliad TAW, sydd wedi bod ar waith ers 2001, ar agor i ymgeiswyr newydd am y tro diwethaf yn 2018/19.
I gael mwy o wybodaeth, ewch i: