Mae Dirprwy Brif Swyddog Meddygol Cymru Chris Jones, yn annog pobl i gymryd gofal ychwanegol a chynllunio ymlaen llaw i ddiogelu eu hunain ac eraill, yn sgil rhybudd y Swyddfa Dywydd am wres eithafol.
Mae’r rhybudd Oren, sydd mewn grym ar gyfer dydd Sul 17 Gorffennaf, dydd Llun 18 Gorffennaf a dydd Mawrth 19 Gorffennaf, yn awgrymu y gallai’r tymheredd godi i'r tridegau canol mewn rhai ardaloedd yn nwyrain Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’r gwasanaethau brys, awdurdodau lleol, ysgolion a busnesau i ddiogelu’r cyhoedd yn ystod cyfnod rhybudd y Swyddfa Dywydd.
I ddiogelu eich hun ac eraill:
- Yfwch ddigon o hylif – mae yfed dŵr yn hanfodol gan fod eich corff yn colli mwy o hylif mewn tymheredd uwch.
- Cynlluniwch ymlaen llaw ac arhoswch yn y cysgod – mae'n well osgoi'r rhan boethaf o'r dydd rhwng canol dydd a 3pm ac osgoi gwneud gweithgareddau awyr agored egnïol yn ystod yr amser hwn.
- Gwisgwch sbectol haul ac amddiffynnwch eich corff rhag yr haul – bydd eli haul neu floc haul yn helpu i’ch atal rhag llosgi.
- I gadw'ch cartref yn oer, diffoddwch oleuadau ac offer trydanol os nad ydynt yn hanfodol, a chau llenni a bleindiau i gael cysgod mewn ystafelloedd.
- Peidiwch â gadael plant ifanc, pobl oedrannus nac anifeiliaid anwes mewn ceir wedi’u parcio gan fod y tymheredd y tu mewn yn gallu codi’n uchel.
- Er bod mynd i’r dŵr i oeri yn demtasiwn fawr, byddwch yn ofalus mewn dŵr agored fel afonydd a llynnoedd, a chadwch lygad ar blant.
- Gwisgwch ddillad llac a het pan fyddwch yn yr awyr agored.
Os ydych chi'n poeni am unrhyw symptomau sy'n gysylltiedig â gwres, ewch i wefan GIG 111 - 111.wales.nhs.uk - i wirio'ch symptomau neu ffoniwch 111 i gael cyngor.
Mae'r rhybudd gwres eithafol yn debygol o gael effaith sylweddol ar draws cymdeithas:
- Trafnidiaeth
- Ysgolion a gofal plant
- Gweithleoedd
- Digwyddiadau
- Sioe Frenhinol Cymru
I gael mwy o wybodaeth, ewch i Annog y cyhoedd i gymryd gofal wrth i’r tymheredd godi yng Nghymru | LLYW.CYMRU