BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Ap COVID-19 y GIG – creu cod QR coronafeirws y GIG ar gyfer eich lleoliad

Bydd ap COVID-19 y GIG yn cael ei lansio ddydd Iau 24 Medi yng Nghymru a Lloegr gan gynnwys cofrestru QR mewn lleoliadau.

Mae busnesau’n cael eu hannog i lawrlwytho codau QR y GIG.

Bydd codau QR yn ffordd bwysig i unigolion gofnodi eu symudiadau gan helpu system Profi, Olrhain, Diogelu y GIG.

Dylech greu ac arddangos cod QR os ydych:

  • yn fusnes, yn fan addoli neu’n sefydliad cymunedol â lleoliad ffisegol sy’n agored i’r cyhoedd   
  • yn ddigwyddiad sy’n cael ei gynnal mewn lleoliad ffisegol

Os oes gennych fwy nag un lleoliad, mae angen i chi greu cod QR ar wahân ar gyfer pob lleoliad. 

Mae cod QR y GIG a’r swyddogaeth gofrestru yn ychwanegol at y mesurau presennol. Bydd angen i leoliadau yng Nghymru sydd â gofyniad cyfreithiol i gasglu a chadw cofnod o ymwelwyr wneud hynny o hyd.

Dylai lleoliadau lawrlwytho’r codau QR o wefan GOV.UK.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael o wefan llyw.cymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.