BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Ardoll ymwelwyr dewisol i awdurdodau lleol

Mae Llywodraeth Cymru’n gweithio ar gynigion a fydd yn rhoi pwerau i awdurdodau lleol i gyflwyno ardoll ymwelwyr a fydd yn creu refeniw i gynorthwyo gyda buddsoddi yn y diwydiant twristiaeth yn eu hardaloedd.

Mae cyflwyno ardoll ymwelwyr yn ymrwymiad yn Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru. Mae’r gwaith yn cael ei wneud mewn cydweithrediad â Phlaid Cymru, ac mae’n rhan o’r Cytundeb Cydweithio.

Mae’r ymgynghoriad ar agor. Mae Llywodraeth Cymru am glywed eich barn er mwyn deall beth fyddai’n gweithio’n dda i Gymru ac i helpu i lunio unrhyw gynigion a fydd yn cael eu datblygu.

Mae dogfen llawn, fersiwn gymunedol/ieuenctid a fersiwn hawdd ei ddeall ar gael. 

Mae'r ymgynghoriad hwn yn edrych ar faterion sy'n ymwneud â dyluniad a gweithredu yr ardoll ymwelwyr.

Bydd y dewisiadau allweddol yn cynnwys:

  • egwyddor a phwrpas ardoll ymwelwyr
  • pwy ddylai dalu ardoll ymwelwyr?
  • pwy ddylai godi tâl a chasglu ardoll ymwelwyr?
  • sut y gellid defnyddio ardoll ymwelwyr?
  • pa bwerau dewisol y gallai'r awdurdod lleol eu cael ar gyfer gweithredu ardoll ymwelwyr?
  • pa wybodaeth sydd ei hangen o bosibl i weinyddu ardoll ymwelwyr?
  • sut y gellir gorfodi ardoll ymwelwyr?
  • sut y gellid defnyddio refeniw o ardoll ymwelwyr a chael pobl i wybod am y defnydd o’r refeniw a'r manteision?

Daw'r ymgynghoriad i ben ar 13 Rhagfyr 2022.

I gael mwy o wybodaeth, ewch i Ardoll ymwelwyr dewisol i awdurdodau lleol | LLYW.CYMRU
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.