BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Arian ar gyfer gofal plant i rieni plant 3 neu 4 oed

Childcare funding for parents

Os wyt ti’n bwriadu dechrau busnes neu’n rhedeg un yn barod, gallai Cynnig Gofal Plant Cymru helpu i wneud bywyd ychydig yn haws i ti neu dy staff drwy roi cymorth tuag at gost gofal plant.

Oeddet ti'n gwybod y gallet ti neu dy staff gael 30 awr o addysg gynnar a gofal plant wedi’i ariannu yr wythnos, am hyd at 48 wythnos o'r flwyddyn? Mae hyn yn cynnwys hyd at naw wythnos o wyliau'r ysgol.

Gallai'r Cynnig dy helpu ar dy daith fusnes drwy dy alluogi i gynyddu dy oriau neu gael hyfforddiant ychwanegol neu i dy staff wneud hynny. Gallai hyd yn oed helpu i annog staff newydd i ymuno â'r busnes trwy ganiatáu iddyn nhw ddychwelyd i'r gwaith.

I fod yn gymwys i gael cyllid, mae'n rhaid bod:

  • â phlentyn 3 neu 4 oed
  • yn byw yng Nghymru
  • yn gyflogedig neu'n hunangyflogedig, yn ennill llai na £100,000 y flwyddyn. Fel arall, gallet fod wedi dy gofrestru ar gwrs addysg uwch neu addysg bellach sydd o leiaf 10 wythnos o hyd

I wybod mwy am y broses ymgeisio dewisiwch y ddolen ganlynol: Cynnig Gofal Plant Cymru | Help Gyda Chostau Gofal Plant yng Nghymru | LLYW.CYMRU


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.