BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Arloesedd cymorth a cyllid ar gyfer eich busnes

Gall arloesi helpu’ch busnes i fod yn fwy cystadleuol, i gynyddu’i werthiant ac i gipio marchnadoedd newydd. 

Ydych chi’n fusnes sy’n gysylltiedig â lled-ddargludyddion, electroneg, neu eu cadwyni cyflenwi? Os felly, gallai ein pecyn o gymorth Arloesedd fod ar eich cyfer chi.

Rydym yn cynnig:

  • hyd at 8 diwrnod o gymorth wedi’i ariannu’n llawn i gynllunio a gweithredu gwelliannau cynhyrchiant a dylunio
  • cymorth a chyngor arbenigol am ddim i chi fabwysiadu technolegau digidol
  • cyllid arloesi fesul cam yn mynd â chi o ddichonoldeb i farchnata
  • cymorth a chyllid ar gyfer cydweithredu prosiectau a phartneriaethau

Darperir y cymorth hwn gan Lywodraeth Cymru o dan raglen Arloesedd SMART a ariennir gan yr UE fel peilot ar gyfer prosiect Interreg COHES3ION.

I gael gwybod a yw eich busnes yn gymwys cysylltwch â Arloesedd Busnes Cymru trwy’r ffurflen holi yma.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.