BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Arolwg Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru: Effaith COVID-19 ar fusnesau yng Ngogledd Cymru

Mae Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru (BUEGC) wedi ymrwymo i gefnogi busnesau yn ystod y cyfnod anodd yma.

Mae BUEGC wedi cynhyrchu arolwg busnes i edrych ar effaith COVID-19, sut mae wedi effeithio ar fusnesau lleol a’i diwydiannau er mwyn cael dealltwriaeth o’r anghenion ynghyd a’r hyn sydd ei angen er mwyn cefnogi adferiad bydd y cyfyngiadau yn cael ei codi.

Bydd y wybodaeth bwysig yma yn helpu BUEGC:

  • i ddeall yr hyn sydd yn wynebu busnesau yng Ngogledd Cymru
  • ac deall pa gymorth mae busnesau ei angen.

Mae'r arolwg yn cau ar 17 Gorffennaf 2020.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau’r arolwg yma.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.