BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Arolwg i helpu i benderfynu ar gymorth ynni i fusnesau

Mae Llywodraeth y DU wedi lansio arolwg i helpu amlygu busnesau a sefydliadau y bydd angen cymorth arnynt o hyd gyda biliau ynni o fis Ebrill 2023. Mae'r arolwg yn cynnwys cwestiynau ar amrywiaeth o bynciau fel costau a defnydd ynni, a disgwyliadau ar gyfer y dyfodol. 

Bydd ymatebion i'r arolwg yn helpu gydag adolygu'r Cynllun Rhyddhad ar Filiau Ynni. 
Bydd yr arolwg yn cau am 11:55pm ar 30 Hydref 2022.

I lenwi'r arolwg, cliciwch ar y ddolen ganlynol Qualtrics Survey | Qualtrics Experience Management
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.