BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Arolwg o’r Gwasanaethau Cynghori ar Fewnfudo a ddarperir yng Nghymru

Ydych chi'n gyflogwr sydd wedi recriwtio gweithwyr tramor neu ydych chi'n ceisio recriwtio o dramor?

Os felly, mae Llywodraeth Cymru eisiau clywed gennych chi! 

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal ymchwil i benderfynu a oes gan fusnesau sy'n ceisio recriwtio o dramor y gefnogaeth angenrheidiol i wneud hynny. Neu, a yw diffyg mynediad at gymorth a chyngor ar fewnfudo yng Nghymru yn atal cyflogwyr rhag recriwtio o dramor. 

Os hoffech rannu eich barn, cwblhewch yr arolwg, cliciwch ar y ddolen ganlynol Cynhadledd Drethi 2022 Llywodraeth Cymru (smartsurvey.co.uk)

Bydd yr arolwg yn cau ar 3 Ebrill 2023. 

Bydd canlyniadau'r arolwg yn cael eu cyhoeddi ar www.llyw.cymru erbyn mis Mehefin 2023. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am yr arolwg, cysylltwch â'r Tîm Polisi Mudo migrationpolicy@llyw.cymru  
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.