BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Arolwg o'r sector Gweithgynhyrchu yng Nghymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi penodi Wavehill i gynnal ymarfer mapio ar gyfer y sector Gweithgynhyrchu yng Nghymru.

Bydd y gwaith hwn yn helpu Llywodraeth Cymru i ddeall iechyd ac anghenion y sector yn well, ac yn llywio cymorth yn y dyfodol. Bydd y gwerthusiad hefyd yn helpu i gyflawni pwyntiau gweithredu penodol a amlinellir yn y Cynllun Gweithredu Gweithgynhyrchu (MAP) sy'n anelu at sicrhau y gall y sector gweithgynhyrchu helpu i gefnogi economi ffyniannus, economi werdd, ac economi gyfartal.

I gwblhau'r arolwg, defnyddiwch y ddolen ganlynol Arolwg Ar-lein Mapio'r Sector Gweithgynhyrchu (qualtrics.com)
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.