BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Arweinwyr Cymdeithasol Cymru 2024

Community group of people outdoors

Rhaglen datblygu arweinyddiaeth am ddim i arweinwyr cymdeithasol yng Nghymru. Mae Social Leaders Cymru 2024 ar agor.

Mae rhaglen arweinyddiaeth Arweinwyr Cymdeithasol Cymru wedi’i llunio i gefnogi arweinwyr mentrau gwirfoddol, cymunedol a chymdeithasol ar bob cam o’u taith arweinyddiaeth.

Gan adeiladu ar y prosiect peilot yng Nghymru yn ystod 2021/22 bydd y rhaglen newydd, a ariannwyd gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a gyflwynir mewn partneriaeth â Clore Social Leadership a WCVA yn:

  • datblygu arweinwyr ledled Cymru a fydd yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf ac yn galluogi’r trydydd sector i ffynnu
  • ymgysylltu ag arweinwyr o gefndiroedd amrywiol
  • annog cydlyniant a chydweithredu cymunedol.

Cyflwynir gan Clore Social Leadership, gan weithio ochr yn ochr â Chyfarwyddwyr Rhaglen yng Nghymru. Mae’r rhaglenni Arweinydd Cymunedol a Cenedlaethol yn creu amser, caniatâd a lle i wella lles a datblygu rhwydweithiau cyfoedion cryf.  Fe’u cynlluniwyd i ehangu eich sgiliau presennol fel arweinydd i ddod yn fwy hyderus, wedi’u grymuso a’u gwydn.

Mae Arweinwyr Cymdeithasol Cymru wedi cael eu creu i gefnogi arweinwyr i wneud gwahaniaeth cadarnhaol yn eu cymunedau.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Arweinwyr Cymdeithasol Cymru - Cwmpas

Mae bod yn fusnes cyfrifol yn golygu bod o fudd i’r bobl a’r lleoedd o’ch cwmpas yn ogystal â chael effaith gadarnhaol ar eich busnes. Mae’n ymwneud â’r ffordd yr ydych yn edrych ar ôl eich staff yn eich gweithle, eich perthynas gyda’ch cyflenwyr yn y farchnad, eich rhan ym mywyd y gymuned a’ch effaith ar yr amgylchedd: Busnes Cyfrifol | Drupal (gov.wales)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.