BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Baromedr Busnesau Bach 2022

Mae prosiect ymchwil chwarterol Enterprise Nation, y  Small Business Barometer, wedi dychwelyd. Cewch gyfle i ennill taleb Not On The High Street gwerth €300, ac mae'r arolwg yn cymryd llai na chwe munud i'w lenwi.

Anogir perchnogion busnesau bach i gymryd rhan yn yr arolwg, sy'n mesur lefel yr hyder (neu ddiffyg hyder) yn y sector busnesau bach.   

Nod Enterprise Nation yw cefnogi busnesau bach, drwy eu platfform, eu rhaglenni neu eu cysylltiadau ag ymgynghorwyr. Bydd mewnwelediadau o'r arolwg hwn yn eu helpu i deilwra'r cymorth hwnnw a chael eu cynrychioli gerbron gwneuthurwyr penderfyniadau allweddol yn llywodraeth y DU. 

Defnyddiwch y ddolen ganlynol i lenwi'r arolwg: Enterprise Nation | 2022 Barometer (typeform.com)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.