BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Beth pe bai gennych chi £10,000 i greu newid?

plastic bottles and clothes made from recycled products

Mae Biffa yn helpu busnesau i ddatguddio gwerth posibl gwastraff - trwy ailddefnyddio, ailddosbarthu, ailgylchu a gweithio gyda sefydliadau arloesol, mawr a bach, i greu atebion cyffrous ac effeithiol sy'n lleihau gwastraff ac yn helpu i leihau ôl troed carbon.

Maen nhw wastad yn chwilio am fusnesau ac entrepreneuriaid o'r un anian sy'n ceisio lleihau gwastraff ac maen nhw wedi lansio cystadleuaeth Ysgogwyr Newid.

Os ydych chi wrthi’n creu newid ac yn chwilio am gefnogaeth, gallech ennill £10,000 a dod yn Ysgogwr Newid Biffa. Does dim angen i chi fod yn fusnes sefydledig hyd yn oed – efallai fod gennych chi syniad neu sgìl arbennig yr hoffech chi ei ddatblygu’n fusnes.

30 Ebrill 2024 yw’r dyddiad cau ar gyfer gwneud cais.

Dewiswch y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Ysgogwyr Newid Biffa - Biffa


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.