BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Beth sy'n newydd yng Nghymru ar gyfer 2025

Greenman Festival

Mae Croeso Cymru yn gweithio ar lunio rhestr o’r hyn sy’n newydd yng Nghymru ar gyfer 2025. Mae ein tîm cysylltiadau cyhoeddus ar hyn o bryd yn briffio’r cyfryngau a newyddiadurwyr ac yn gweithio gyda partneriaid fel VisitBritain i sicrhau ein bod yn cael sylw positif yn y wasg a’r cyfryngau i Gymru fel cyrchfan wyliau, felly rhowch wybod i ni beth sy'n newydd. 

Rydym yn chwilio’n arbennig am wybodaeth am:

  • Llety a bwytai newydd
  • Digwyddiadau ac arddangosfeydd mawr 
  • Mentrau cynaliadwyedd newydd a phrofiadau teithio cyfrifol – gan gynnwys cynigion amaeth-dwristiaeth a gwirfoddoli
  • Cynhyrchion neu brofiadau newydd wedi'u datblygu ar gyfer y rhai sydd â gofynion hygyrchedd
  • Teithiau, atyniadau a phrofiadau newydd
  • Llwybrau newydd a gweithgareddau awyr agored
  • Lleoliadau ffilm / teledu newydd a phrofiadau cysylltiedig
  • Penblwyddi mawr

Anfonwch eich gwybodaeth at newyddioncynnyrch@llyw.cymru


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.