BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Beth yw arweinyddiaeth gynhwysol?

Ymunwch â Chwarae Teg am weithdy 45 munud AM DDIM i archwilio ffactorau cyfranogol allweddol wrth adeiladu amgylchedd cynhwysol ac arweinyddiaeth gynhwysol.

Mae llawer o astudiaethau wedi cael eu cynnal ar y berthynas rhwng amrywiaeth a chynhwysiant a pherfformiad cwmni, ac mae bron pob un ohonynt wedi dod i'r un casgliad. Yn syml: mae amrywiaeth a chynhwysiant yn dda i fusnes.

Bydd y gweithdy'n cynnwys:

  • Cyflwyniad
  • Beth yw ystyr 'cynhwysiant'?
  • Beth yw arweinydd cynhwysol?
  • Sut i wneud i hynny ddigwydd
  • Sut mae sefydliad yn creu arweinyddiaeth gynhwysol?
  • Holi ac ateb

Cynhelir y gweithdy ar-lein ar 13 Chwefror 2023 gyda dyddiadau ym mis Mawrth a mis Ebrill hefyd.

I gael mwy o wybodaeth ac i drefnu lle, cliciwch ar y ddolen ganlynol What is inclusive leadership? Tickets, Multiple Dates | Eventbrite
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.