Ers lansio Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR) 2019-22 yn 2019 bu newid aruthrol yn y ffordd mae pobl yn gweithio a’r mathau o swyddi sy’n cael eu cynnig. Yn bwysicach, bu newid arwyddocaol yn y sgiliau mae eu hangen bellach ar ddiwydiant i yrru eu busnesau yn eu blaen mewn byd ôl-pandemig. Mae’r adegau cythryblus dros y ddwy flynedd diwethaf wedi golygu bod sgiliau newydd wedi cael eu hadnabod fel gofyniad allweddol ar gyfer busnesau. Mae felly yn bwysicach nag erioed ein bod yn sicrhau bod pobl yn ennill y sgiliau cywir yn ein colegau, prifysgolion a thrwy ein darpariaeth dysgu seiliedig ar waith (prentisiaethau).
I’r rhai yn y rhanbarth sydd heb ymwneud â Phartneriaeth Sgiliau CCR (CCRSP) o’r blaen, rydym yn un o bedair partneriaeth sgiliau yng Nghymru. Gweithiwn i ddeall y blaenoriaethau sgiliau allweddol sy’n wynebu diwydiannau yn ein rhanbarth. Defnyddiwn wybodaeth sy’n cael ei chasglu trwy’r arolwg hwn a’n hymgysylltiad ehangach â rhanddeiliaid yn y rhanbarth i helpu i lywio’r Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau. Drwy gwblhau’r arolwg hwn, rydych chi’n cyfrannu at Gynllun Cyflogaeth a Sgiliau CCR ar gyfer 2022-2025. Mae’r cynllun hwn yn allweddol i hysbysu Llywodraeth Cymru am ba sgiliau a hyfforddiant mae eu hangen yn ein rhanbarth a ble mae angen iddynt ddyrannu eu cyllid er mwyn bodloni’r galwadau hyn.
Ni ddylai’r arolwg hwn gymryd mwy na 10 munud i’w gwblhau ond fe allai wneud gwahaniaeth aruthrol i dirlun sgiliau eich rhanbarth. Gallwch ei gwblhau’n ddi-enw, er y bydd dweud wrthym ni enw’ch busnes / sefydliad pan ofynnir yn gadael i ni ddeall cyd-destun eich ymateb a chwmpas daearyddol yr arolwg yn well.
Bydd yr arolwg yn cau 31 Gorffennaf 2022.
Defnyddiwch y ddolen ganlynol i gwblhau'r arolwg: Arolwg Sgiliau Cyflogwyr 2022 | Employers Skills Survey 2022 (smartsurvey.co.uk)