Heddiw (26 Medi 2022), cyhoeddodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths, fod Bil Amaethyddiaeth cyntaf Cymru erioed wedi cael ei osod gerbron y Senedd. Mae’r Bil yn paratoi'r ffordd ar gyfer deddfwriaeth uchelgeisiol a thrawsnewidiol i gefnogi ffermwyr, cynhyrchu bwyd yn gynaliadwy, a gwarchod a gwella cefn gwlad Cymru, y diwylliant a’r Gymraeg.
Mae'r Bil hefyd yn cynnwys ymrwymiad y Rhaglen Lywodraethu i wahardd defnyddio maglau a thrapiau glud yn llwyr. Cymru fydd y wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno gwaharddiad llwyr.
Mae'r fframwaith polisi ‘Gwnaed yng Nghymru’ cyntaf hwn yn cydnabod amcanion ategol cefnogi ffermwyr i gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy ochr yn ochr â gweithredu er mwyn ymateb i argyfyngau'r hinsawdd a natur, cyfrannu at gymunedau gwledig ffyniannus a chadw ffermwyr ar y tir.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Bil hanesyddol cyntaf Amaethyddiaeth Cymru i gefnogi ffermwyr yn y dyfodol | LLYW.CYMRU