BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Bod yn Gyflogwr Cyfeillgar i'r Lluoedd Arfog a chofrestru ar gyfer Cyfamod y Lluoedd Arfog

Beth yw Cyfamod y Lluoedd Arfog?

I'r rheiny sy'n falch o amddiffyn ein cenedl, ac yn gwneud hynny gydag anrhydedd, dewrder ac ymrwymiad, yr Armed Forces Covenant yw ymrwymiad y genedl i chi.

Mae'n addewid ein bod, gyda'n gilydd, yn cydnabod ac yn deall y dylai'r rheiny sy'n gwasanaethu neu sydd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog, a'u teuluoedd, gael eu trin â thegwch a pharch yn y cymunedau, yr economi a'r gymdeithas y maent yn eu gwasanaethu gyda'u bywydau.

Mae'r cyfamod yn canolbwyntio ar helpu aelodau o gymuned y lluoedd arfog i gael yr un mynediad at wasanaethau a chynhyrchion y llywodraeth a rhai masnachol ag unrhyw ddinesydd arall. 

Mae milwyr wrth gefn a chyn-filwyr yn dod ag amrywiaeth o sgiliau a rhinweddau trosglwyddadwy i'r gweithle sifil, a ddatblygwyd trwy gydol eu gyrfaoedd milwrol.

Gall busnesau, sefydliadau elusennol, a sefydliadau’r sector cyhoeddus o bob maint sy'n dymuno cefnogi cymuned y lluoedd arfog lofnodi'r cyfamod. Rydych yn gwneud eich addewidion eich hun ar sut y byddwch yn dangos eich cefnogaeth.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Businesses - Armed Forces Covenant


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.