BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

BridgeAI: Rhaglen Cyflymydd FutureScope

Ydych chi'n fusnes deallusrwydd artiffisial newydd neu’n BBaCh sy'n ceisio datblygu atebion dysgu peirianyddol cyfrifol, cynyddol a dymunol?

Bydd Rhaglen Cyflymydd BridgeAI FutureScope gan Digital Catapult yn eich cynorthwyo ar eich taith deallusrwydd artiffisial ac mae wedi cael ei chynllunio i gefnogi busnesau deallusrwydd artiffisial newydd, a BbaChau, i ddatblygu atebion dysgu peirianyddol a deallusrwydd artiffisial cyfrifol, dymunol a chynyddol.

Mae'r rhaglen yn darparu mynediad at bŵer cyfrifiant, arbenigedd technegol a busnes, a chymorth sy'n arwain y diwydiant ar foeseg deallusrwydd artiffisial gymhwysol, yn ogystal â chymorth gan rwydwaith o arloeswyr, technolegwyr, buddsoddwyr, arweinwyr diwydiant, ac academyddion.

Gwnewch gais i gael eich ystyried ar gyfer y rhaglen cyflymydd 12 wythnos drawsnewidiol hon, a gynhelir rhwng 25 Medi a 15 Rhagfyr 2023.

Y dyddiad cau ar gyfer ymgeisio yw 9 Awst 2023.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol BridgeAI: FutureScope Acceleration Programme | Digital Catapult - Innovate UK KTN (ktn-uk.org)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.