BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Busnesau Ffermio – Cynllyn Cymorth ar gyfer Cynllun y Taliad Sylfaenol 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cyhoeddi y bydd Cynllun Cymorth a fydd yn gysylltiedig â Chynllun y Taliad Sylfaenol yn cael ei lansio. Hwn i’w ymateb i bandemig COVID-19.

Bydd cynllun 2020 unwaith eto yn talu benthyciad o hyd at 90% o’r hyn a ragwelir yw gwerth hawliad BPS busnes unigol.

Bydd y taliad hwn yn lleihau’r pwysau byrdymor ar y busnesau ffermio hynny nad ydynt yn cael eu taliad BPS ar ddiwrnod cyntaf y cyfnod talu, sy’n dechrau ar 1 Rhagfyr 2020.

Bydd Cynllun Cymorth BPS 2020 yn agor i geisiadau drwy Daliadau Gwledig Cymru (RPW) Ar-lein ar 1 Medi 2020 a bydd yn parhau ar agor tan 27 Tachwedd 2020.

Yn amodol ar ymgeiswyr yn bodloni’r telerau ac amodau angenrheidiol, bydd taliad yn cael ei wneud i hawlwyr llwyddiannus nad yw eu hawliad BPS llawn wedi’i brosesu, yn ystod yr wythnos yn dechrau ar 7 Rhagfyr 2020.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.