BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Busnesau'r DU yn cael offeryn rhad ac am ddim gan lywodraeth y DU i fynd i'r afael â cham-drin economaidd

Bydd busnesau ac elusennau'r DU yn elwa ar ganllaw rhyngweithiol am ddim i helpu eu staff i adnabod a mynd i'r afael â cham-drin economaidd wrth siarad â chwsmeriaid dros y ffôn.

Mae cam-drin economaidd, y mae’r elusen trais domestig Refuge yn amcangyfrif bod 16% o oedolion yn y DU wedi'i brofi, yn digwydd pan fydd gallu unigolyn i gaffael, defnyddio a chynnal adnoddau economaidd yn cael ei dynnu ymaith gan rywun arall mewn ffordd orfodol neu reolaethol.

Trwy gynyddu ymwybyddiaeth staff yn y llywodraeth, busnesau ac elusennau o gam-drin economaidd, mae llywodraeth y DU yn gobeithio y bydd yr offeryn rhyngweithiol newydd yn chwarae ei ran wrth atal trais yn erbyn menywod a merched, i adeiladu cymunedau cryfach ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.  

Mae'r canllaw rhyngweithiol, a fydd ar gael yn eang yn ddiweddarach eleni, yn adeiladu ar Becyn Cymorth Cam-drin Economaidd llywodraeth y DU, a ryddhawyd yn gynharach eleni.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y dolenni canlynol:


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.