BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Bwletin Cyflogwyr CThEM Ebrill 2022

Mae rhifyn mis Ebrill o'r Bwletin Cyflogwyr yn rhoi'r holl ddiweddariadau a chanllawiau diweddaraf i chi gan CThEM i gefnogi cyflogwyr, gweithwyr cyflogres proffesiynol ac asiantau. 

Yn y rhifyn hwn, mae diweddariadau pwysig ar: 

  • wybodaeth coronafeirws (COVID-19) am hawddfreiniau sy'n dod i ben  
  • terfynau amser cytundeb setlo TWE  
  • rhoi gwybod am dreuliau a budd-daliadau ar gyfer y flwyddyn dreth sy'n dod i ben ar 5 Ebrill 2022
  • hawlio lwfans cyflogaeth o fis Ebrill 2022
  • busnesau bach yn cael eu gwahodd i rannu eu barn drwy arolwg Tell ABAB 2022   
  • gweithio gartref: hawlio rhyddhad treth o fis Ebrill 2022

Cyhoeddir y Bwletin Cyflogwyr nesaf ym mis Mehefin 2022.

I gael mwy o wybodaeth, ewch i Bwletin y Cyflogwr: Ebrill 2022 - GOV.UK (www.gov.uk)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.