BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Bwletin y Cyflogwr CThEF: Hydref 2023

 female leather worker using a laptop at a workbench

Mae CThEF yn cyhoeddi Bwletin y Cyflogwr 6 gwaith y flwyddyn. Mae’r Bwletin yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i gyflogwyr ac asiantau ynghylch materion a allai effeithio arnynt.

Mae rhifyn mis Hydref o Fwletin y Cyflogwr yn cynnwys erthyglau ar y canlynol:

  • gwefru ceir a faniau cwmni trydan ar eiddo preswyl
  • talu’ch Cytundeb Setliad TWE
  • cyflwyno gwybodaeth TWE mewn amser real pan fydd taliadau’n cael eu gwneud yn gynnar adeg y Nadolig
  • Rhyddhad Gorgyffwrdd — paratoi ar gyfer y sail blwyddyn dreth newydd
  • gwelliannau i dalu drwy gyfrif banc

Gallwch gofrestru ar gyfer gwasanaeth hysbysu cyflogwyr drwy e-byst CThEF (yn Saesneg) er mwyn cael e-byst oddi wrth CThEF sy’n rhoi gwybod i chi pan fydd y rhifyn diweddaraf ar gael.   

I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen hon: Bwletin y Cyflogwr: Hydref 2023 - GOV.UK (www.gov.uk)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.