BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Bydd 'hwb' gwerth £15 miliwn yn cynyddu nifer y pwyntiau gwefru cerbydau trydan yng Nghymru

Bydd Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £15 miliwn i gynyddu nifer y pwyntiau gwefru cerbydau trydan ledled Cymru.

Bydd y cyllid, a gadarnhawyd gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters, yn cael ei ddefnyddio i helpu awdurdodau lleol i gynyddu nifer y cyfleusterau gwefru cyn i gerbydau tanwydd ffosil gael eu diddymu'n raddol yn 2030.

Mae'r cyllid newydd yn dilyn y £26 miliwn sydd eisoes wedi'i fuddsoddi mewn seilwaith gwefru ledled Cymru ers 2021 sydd wedi creu mwy na 1,600 o bwyntiau gwefru - digon ar gyfer un o bob chwe cherbyd trydan batri.

Mae'r cyhoeddiad heddiw yn ategu'r gronfa Cerbydau Allyriadau Isel Iawn (ULEV) sydd eisoes wedi cychwyn llawer o brosiectau Cerbydau Trydan wrth i Lywodraeth Cymru anelu at gyrraedd ei tharged o ddarparu pwyntiau gwefru ar gyfer pob 20 milltir o'r rhwydwaith cefnffyrdd strategol ledled Cymru erbyn 2025.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol:


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.