BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Bydd Pont Menai’n ailagor ar amser

Bydd y gwaith brys, a ddechreuodd ar 5 Ionawr, yn cael ei gwblhau o fewn yr amserlen 4 wythnos a bydd disgwyl i'r bont ailagor gyda chyfyngiad pwysau erbyn hanner nos (00:01hrs) ar ddydd Iau 2 Chwefror 2023.

Mae Llywodraeth Cymru ac UK Highways A55 Ltd, ar y cyd â’r cwmnïau peirianneg Spencer Group a COWI, yn parhau i gydweithio'n agos i ddatblygu cynllun ar gyfer gwaith adfer tymor hwy, gan achosi cyn lleied â phosib o darfu, fel y gall Pont Menai ailagor yn llwyr. Mae disgwyl i’r gwaith hwn ddechrau ar ddiwedd yr haf. 

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Bydd Pont Menai’n ailagor ar amser | LLYW.CYMRU
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.