BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Byddwch yn wyliadwrus rhag asiantiaid ardrethi busnes twyllodrus

Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) yn annog busnesau i amddiffyn eu hunain rhag asiantiaid ardrethi busnes twyllodrus.

Daeth gwerthoedd ardrethi newydd ar gyfer eiddo busnes i rym yn Ebrill 2023.

Defnyddiodd cynghorau’r gwerthoedd newydd hyn i gyfrifo biliau ardrethi busnes.

Gall busnesau herio’u prisiad os ydynt o’r farn ei fod yn anghywir. Gallant ddefnyddio asiant ardrethi i wneud hyn.

Ond mae rhai asiantiaid twyllodrus yn cyflwyno gwybodaeth anghywir. Gallai hyn arwain at gosbau neu filiau ardrethi uwch.

Byddwch yn wyliadwrus rhag unrhyw un sy’n gwarantu y gallant sicrhau gostyngiadau mewn ardrethi busnes.

Am wybodaeth bellach, dilynwch y ddolen ganlynol Be wary of rogue business rates agents - GOV.UK (www.gov.uk)
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.