BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cadw ffermwyr i ffermio

farmer holding soil in their hands

Cyfle i chi ddweud eich dweud am ddyfodol cymorth i ffermwyr, wrth gyhoeddi'r ymgynghoriad terfynol ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy.

Cyhoeddir heddiw (dydd Iau, 14 Rhagfyr 2023) yr ymgynghoriad terfynol ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, y prif gynllun cymorth i ffermwyr yng Nghymru o 2025. Ei nod yw gwneud ffermwyr Cymru yn arweinwyr byd mewn ffermio cynaliadwy.

Nod y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yw diogelu systemau cynhyrchu bwyd, sicrhau bod ffermwyr yn parhau i ffermio'r tir, diogelu'r amgylchedd a mynd i'r afael ar fyrder â'r argyfyngau hinsawdd a natur.

Bydd y Cynllun yn cefnogi ffermwyr i fod yn fwy effeithlon a chydnerth, er mwyn iddynt allu ymateb i ofynion newidiol defnyddwyr a chystadlu mewn economi fyd-eang sy'n datgarboneiddio.

Cafodd y cynigion hyn eu llywio gan yr adborth a gawsom gan ffermwyr a'r diwydiant ehangach mewn tri ymgynghoriad ac yn nau gam y broses gydlunio. Ni fydd penderfyniad terfynol yn cael ei wneud am y cynllun tan ar ôl yr ymgynghoriad terfynol hwn.

Er nad yw'r ymgynghoriad yn cynnwys cyfraddau talu, mae'n cynnig darparu Taliad Sylfaenol Cyffredinol i ffermwyr ledled Cymru am gynnal y Gweithredoedd Cyffredinol ar eu ffermydd.

Ymgynghoriad yn cau ar 7 Mawrth 2024: Cynllun Ffermio Cynaliadwy | LLYW.CYMRU

I gael rhagor o wybodaeth, dilynwch y dolenni canlynol:


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.