BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Canllaw Cyllid Masnach ac Allforio y DU

Mae Trade Finance Global (TFG) wedi ffurfio partneriaeth â Chyllid Allforio y DU (UKEF), sef asiantaeth credyd allforio Llywodraeth y DU, a’r Adran Masnach Ryngwladol (DIT) i gynhyrchu Canllaw Cyllid Masnach ac Allforio y DU.

Daw'r canllaw 60 tudalen yn erbyn cefndir o amgylchiadau daearwleidyddol cymhleth a thirwedd ariannol sy'n newid yn barhaus.

Wrth archwilio materion diweddar, fel pandemig COVID-19, Brexit, a'r gwrthdaro presennol rhwng Rwsia a’r Wcráin, nod y canllaw hwn yw rhoi darlun cliriach o sut i lywio statws economaidd presennol y diwydiant.

Mae'r canllaw ar gael am ddim i'w lawrlwytho ar www.tradefinanceglobal.com/export-finance

I gael mwy o wybodaeth, ewch i Supporting UK businesses to trade: TFG partners with UKEF and DIT to create a trade and export finance guide - GOV.UK (www.gov.uk)
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.