BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Canllaw newydd: cyflwyniad i reoli iechyd a diogelwch

Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) wedi datblygu canllaw ar-lein newydd i’ch helpu i ganfod a deall yn gyflym yr hyn y mae’n rhaid i’ch busnes ei wneud i gydymffurfio â chyfraith iechyd a diogelwch.   

Bydd y canllaw gam wrth gam yn eich helpu i:  

  • ddeall beth mae rheoli iechyd a diogelwch yn ei olygu
  • dod o hyd i’r canllawiau iawn i’ch gweithle
  • defnyddio’r dull Cynllunio, Gwneud, Gwirio, Gweithredu i reoli iechyd a diogelwch mewn ffordd sy’n syml ac yn gymesur â’ch risgiau, ar yr un pryd â chydymffurfio â’r gyfraith

Mae gan yr HSE arweiniad hefyd ar risgiau gweithle cyffredin lle y gallwch ddod o hyd i gyngor penodol ar gyfer eich gweithle. 

I gael rhagor o wybodaeth, dilynwch y ddolen ganlynol Introduction to managing health and safety: Overview - HSE 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.