BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Canllawiau ar gyfer busnesau yn ymwneud â diwedd Cyfnod Pontio’r UE

 

TAW a chynnyrch tramor sy’n cael ei werthu i gwsmeriaid o farchnadoedd ar-lein: Mae Canllawiau ar wahân wedi’u cyhoeddi sy’n amlinellu sut y bydd marchnadoedd ar-lein a’r rhai sy’n gwerthu’n uniongyrchol i gwsmeriaid ym Mhrydain ar ôl 1 Ionawr 2021 yn ymdrin â TAW ar gynnyrch tramor.

Mae’r Swyddfa Diogelwch a Safonau Cynnyrch wedi cyhoeddi canllawiau i helpu busnesau i gydymffurfio â’r rheoliadau pan ddaw’r Cyfnod Pontio i ben. Cyhoeddir canllawiau ategol, ar wahân ar gyfer busnesau sy’n masnachu ym Mhrydain a Gogledd Iwerddon. Mae’r rhestr o ddogfennau canllawiau sydd wedi’u cyhoeddi i’w gweld ar wefan GOV.UK.  

Mae canllawiau ar ddiogelwch a mesureg cynnyrch y DU ar ôl 1 Ionawr 2021 wedi’u cyhoeddi i fusnesau ar gyfer rheoliadau diogelwch a mesureg cynnyrch penodol. Mae’r canllawiau ar gael ar wefan GOV.UK

Mae Porth Cyfnod Pontio'r UE Busnes Cymru yn darparu cyngor a chanllawiau pwysig i fusnesau sy’n paratoi ar gyfer pontio’r UE.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.