Mae CThEM wedi diweddaru ei ganllawiau ar drin cildyrnau, arian rhodd, taliadau gwasanaeth a throncs o ran treth i gynnwys manylion ar sut i ymdrin â thaliadau electronig.
Mae talu cildyrnau’n gyffredin i weithwyr yn y diwydiannau arlwyo a gwasanaethau. Wrth i'r pandemig gyflymu'r broses o symud i ffwrdd o dalu ag arian parod, mae symudiad wedi bod hefyd tuag at gwsmeriaid yn talu cildyrnau'n electronig.
Mae CThEM wedi diweddaru ei ganllawiau i gyflogwyr i gynnwys enghreifftiau o systemau ar gyfer talu cildyrnau’n electronig. Mae'r canllawiau'n adlewyrchu nad yw taliad a wneir yn electronig yn newid unrhyw un o'r egwyddorion sylfaenol ar gyfer penderfynu sut y dylid cyfrif am dreth o ran y cildyrnau hynny a ph’un a oes atebolrwydd am gyfraniadau yswiriant gwladol yn codi.
Pan fydd y cyflogwr yn casglu'r cildyrnau ac yn eu talu i gyflogeion, mae'n ofynnol i'r cyflogwr ddidynnu treth incwm a chyfraniad yswiriant gwladol o'r taliadau hyn.
Pan fydd cwsmeriaid yn talu cildyrnau'n uniongyrchol i staff, mae pob cyflogai yn gyfrifol am ddatgan yr enillion hyn i CThEM. Mae unrhyw dreth sy'n ddyledus yn debygol o gael ei chasglu drwy addasiad i god treth y cyflogai. Nid yw taliadau uniongyrchol gan gwsmeriaid yn ddarostyngedig i gyfraniadau yswiriant gwladol.
Mae rheolau ar wahân hefyd ar gyfer taliadau a wneir drwy 'droncs' (trefniant cyflog arbennig a ddefnyddir i ddosbarthu cildyrnau, arian rhodd a thaliadau gwasanaeth lle mae person heblaw'r cyflogwr yn gyfrifol am rannu'r symiau). Manylir ar y rhain hefyd yn y canllawiau diweddaraf gan CThEM.
I gael mwy o wybodaeth, ewch i GOV.UK (www.gov.uk)