BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Canllawiau Newydd ar Gyfnod Pontio'r DU

Gwiriwch pa ddatganiadau y mae angen eu gwneud ar gyfer nwyddau y byddwch chi'n dod â nhw i mewn neu'n eu derbyn i'r DU o 1 Ionawr 2021

Os ydych chi'n fusnes yn y DU sy'n dod â nwyddau i mewn neu'n eu derbyn i Brydain Fawr neu Ogledd Iwerddon, gwiriwch pa ddatganiadau y gallai fod angen eu gwneud drwy fynd i wefan GOV.UK

Gwiriwch pa ddatganiadau y mae angen eu gwneud ar gyfer nwyddau rydych chi'n eu hanfon o'r DU o 1 Ionawr 2021

Os ydych chi'n fusnes yn y DU sy'n anfon nwyddau o Brydain Fawr neu Ogledd Iwerddon, gwiriwch pa ddatganiadau y gallai fod angen eu gwneud drwy fynd i wefan GOV.UK

Defnyddio data personol yn eich busnes neu sefydliad arall ar ôl y cyfnod pontio

Mae canllawiau am ddarpariaethau data personol yn y Cytundeb Ymadael wedi'u diweddaru. Ewch i wefan GOV.UK i gael rhagor o wybodaeth ac i weld pa gamau y mae angen i chi eu cymryd o ran diogelu data a llif data gyda'r UE/AEE, ar ôl diwedd y cyfnod pontio. 

Canllawiau Sector

Mae canllawiau penodol i sector a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar gael i'r rhai sy'n gweithio yn y sectorau canlynol: 

  • Digidol, technoleg a gwasanaethau cyfrifiadurol – i gael rhagor o wybodaeth i'ch helpu chi i ddeall beth sydd angen i chi ei wneud cyn 1 Ionawr 2021, ewch i wefan GOV.UK
  • Chwaraeon a hamdden – i gael rhagor o wybodaeth i'ch helpu chi i ddeall beth sydd angen i chi ei wneud cyn 1 Ionawr 2021, ewch i wefan GOV.UK  
  • Y farchnad gelf – i gael rhagor o wybodaeth i'ch helpu chi i ddeall beth sydd angen i chi ei wneud cyn 1 Ionawr 2021, ewch i wefan GOV.UK 
  • Y cyfryngau a darlledu – i gael rhagor o wybodaeth i'ch helpu chi i ddeall beth sydd angen i chi ei wneud cyn 1 Ionawr 2021, ewch i wefan GOV.UK

Ewch i wefan Porth Pontio UE Busnes Cymru sy'n rhoi cyngor ac arweiniad pwysig i fusnesau sy'n paratoi ar gyfer y trefniadau pontio Ewropeaidd


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.