BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Canllawiau wedi'u diweddaru i gyflogwyr ar fesurau gwarchod beichiogrwydd a mamolaeth

Pregnant employee working in an office

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi cyhoeddi pecyn cymorth wedi’i ddiweddaru i gyflogwyr, sy’n cynnig cyngor ac arweiniad clir ar gamau y gall cyflogwyr eu cymryd i atal gwahaniaethu ar sail beichiogrwydd a mamolaeth yn y gwaith.

Mae’r pecyn cymorth wedi’i ddiweddaru yn amlinellu’r newidiadau penodol y bydd yn rhaid i gyflogwyr eu gwneud, yn unol â’r deddfau gweithio hyblyg newydd a ddaeth i rym ym mis Ebrill 2024. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • ymestyn y mesurau gwarchod rhag diswyddo i fenywod beichiog a’r rhai sydd ar absenoldeb mamolaeth, absenoldeb mabwysiadu ac absenoldeb rhiant a rennir
  • cynnig cyflogaeth amgen addas i fenywod beichiog a’r rhai sydd ar absenoldeb mamolaeth, absenoldeb mabwysiadu ac absenoldeb rhiant a rennir mewn sefyllfaoedd dileu swyddi, â blaenoriaeth yn cael ei rhoi dros weithwyr eraill ar gyfer rolau amgen
  • darparu'r gallu i ofyn am weithio hyblyg o ddiwrnod cyntaf y gyflogaeth
  • gwella hyblygrwydd ar gyfer defnyddio absenoldeb tadolaeth 

Mae pob cyflogwr yn cael eu hannog i ddarllen y canllawiau er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio'n llwyr â'r gyfraith ac yn deall sut i atal gwahaniaethu yn erbyn eu gweithwyr. 

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Beichiogrwydd a mamolaeth: beichiogrwydd | EHRC (equalityhumanrights.com) 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.