BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Blogiau

Cefnogaeth o £51 miliwn i fusnesau Cymru yn hanner cyntaf 2021

Mae Banc Datblygu Cymru wedi gwneud £51 miliwn o fenthyciadau a buddsoddiadau ecwiti yn 220 o fusnesau Cymru yn ystod y cyfnod o chwe mis rhwng Ebrill a Medi 2021.

Mae’r ffigurau hanner blwyddyn a gyhoeddwyd heddiw, 15 fed Tachwedd 2021, gan y Banc Datblygu yn adrodd bod £51 miliwn wedi denu buddsoddiad sector preifat ychwanegol o bron i £38 miliwn ac mae wedi helpu i greu neu ddiogelu dros 1,370 o swyddi.    

Nodwyd cynnydd o 31% yn nifer y busnesau sydd wedi dechrau o’r newydd yng Nghymru yn y flwyddyn hyd at Chwarter 1 2021 yn yr adroddiad blynyddol diweddaraf gan Dirnad Economi Cymru Cymru. Mae hyn yn cael ei adlewyrchu mewn cynnydd sylweddol mewn benthyciadau micro o hyd at £50,000 a roddir i fusnesau sy’n dechrau o’r newydd sy'n cael eu sefydlu gan dros 60% o'i gymharu â'r un cyfnod y llynedd. Mae 66 o fusnesau newydd wedi cael cefnogaeth o £1.5 miliwn hyd yma o’i gymharu â £0.9 miliwn yn yr un cyfnod y llynedd.

Mae'r niferoedd yn dangos diddordeb cryf o du fusnesau sy'n ceisio sicrhau buddsoddiad ecwiti. Mae diddordeb sylweddol gan gyd-fuddsoddwyr yn helpu i arallgyfeirio'r farchnad a chynyddu cyfaint a gwerth cyffredinol bargeinion. Mae £4.2 miliwn o fuddsoddiad uniongyrchol i gyfnod cynnar, busnesau technoleg wedi denu £23.2 miliwn o fuddsoddiad yn y sector preifat - mae'r ffigur hwn wedi mwy na dyblu o'i gymharu â'r un cyfnod y llynedd.

Mae Angylion Buddsoddi Cymru, y rhwydwaith angylion mwyaf yng Nghymru, hefyd yn gweld diddordeb cynyddol gan fusnesau sy'n cydnabod buddion sicrhau cyfalaf ac arbenigedd trwy syndicetiau angylion. Hwylusodd y rhwydwaith £ 2.4 miliwn mewn buddsoddiad angylion o'i gymharu â £0.7 miliwn yn yr un cyfnod y llynedd.

Mae'r galw am gyllid gan y sector eiddo yn parhau i fod yn gryf, gyda datblygwyr angen cyllid hyblyg i helpu i reoli materion cadwyn gyflenwi sy'n deillio o effeithiau Covid-19 a Brexit.

Cred Prif Weithredwr Banc Datblygu Cymru, Giles Thorley fod y galw am gyllid yn adlewyrchu pwysigrwydd cefnogaeth barhaus i fusnesau wrth i'r economi wella. Meddai: “Nid oes unrhyw amheuaeth bod busnesau Cymru yn gwneud popeth o fewn eu gallu i ailadeiladu a mynd yn ôl ar y trywydd iawn. Mae'n galonogol gweld bod yr ysbryd mentergarol a'r agwedd benderfynol i lwyddo yn gryfach nag erioed gyda llawer o bobl yn penderfynu dechrau menter newydd. Mae croeso arbennig i'r gweithgaredd cyd-fuddsoddi ecwiti cynyddol gan fuddsoddwyr yn y DU a rhyngwladol sy'n gweld gwir botensial yn economi Cymru.

“Gyda chynllun Net Zero Cymru Llywodraeth Cymru wedi’i lansio, mae’n gadarnhaol gweld y galw cynyddol am gyllid gan fusnesau sydd am fuddsoddi mewn prosiectau cynaliadwy a datblygu atebion arloesol a fydd yn helpu i ymladd yn y frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd. Fel buddsoddwr cyffredinol tymor hir, mae ein gweithgaredd buddsoddi yn ymestyn ar draws camau, meintiau a sectorau busnes. Mae galw'r farchnad yn siapio ein gweithgaredd a'n rôl ni yw mynd i'r afael â bylchau a pharhau i ddarparu'r gefnogaeth a'r cyllid sydd eu hangen i fusnesau Cymru lwyddo."

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething: “Yn unol â’n hymrwymiadau Rhaglen Llywodraeth, mae Banc Datblygu Cymru yn chwarae rhan lwyddiannus wrth godi ymwybyddiaeth o’r cyfleoedd a gyflwynir i fusnes gan fuddsoddiadau ecwiti, ac wrth ddatblygu’r farchnad ar gyfer ecwiti yng Nghymru.

“Y mis hwn, rwyf wedi ysgrifennu at Gadeirydd y Banc Datblygu yn nodi'r blaenoriaethau polisi ar gyfer tymor y Llywodraeth hon. Mae'r cylch gwaith hwnnw'n tanlinellu'r rôl bwysig y mae'n rhaid i'r Banc Datblygu ei chwarae wrth gefnogi'r genhadaeth cadernid ac adferiad economaidd a amlinellais y mis diwethaf, ac mae'n gosod uchelgais glir ar gyfer ei rôl wrth helpu busnesau i drosglwyddo i Net Sero. 

“Ar adeg pan mae llawer o fenthycwyr prif ffrwd yn cael ymgilio, mae Banc Datblygu Cymru yno i helpu busnesau i gael gafael ar y cyllid sydd ei angen arnyn nhw i ddatblygu a thyfu - a helpu i adeiladu economi Gymreig gryfach, decach a gwyrddach.”

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.