BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cefnogi eich gweithwyr i gynllunio am ddyfodol cadarnhaol

Rydyn ni'n cynllunio i brynu car neu fynd ar wyliau, felly pam nad ydyn ni'n cymryd yr un amser i gynllunio ein bywyd gwaith, ein hiechyd, neu ein llesiant ariannol yn y dyfodol? 

Gall cyflogwyr gefnogi eu gweithwyr dros 50 oed i gynllunio at gyfnod hwyrach eu bywydau drwy gynnig cyfle iddyn nhw fynychu Gweminarau Adolygu Canol Gyrfa, sy'n cael eu darparu yng Nghymru gan raglen Pobl Hŷn yn y Gweithle y rhwydwaith busnes cyfrifol Busnes yn y Gymuned Cymru

Mae'r gweminarau hyn sydd am ddim ac sy'n para awr yr un, yn rhoi cyfle i fynychwyr fyfyrio am eu sefyllfa eu hunain ac ystyried anghenion y dyfodol, ac maen nhw'n darparu cyfeiriadau a gwybodaeth am waith, llesiant a chyllid a fydd yn caniatáu iddyn nhw wneud penderfyniadau gwybodus, dod yn fwy hyderus a chydnerth, a chymryd camau i greu dyfodol cadarnhaol iddyn nhw eu hunain.  

Cliciwch yma i weld dyddiadau sydd ar y gorwel a chofrestru.  


 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.