BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Ceisiadau ar agor! Sefydlydd Busnes y Flwyddyn 2020 - Menyw

Mae’r ceisiadau nawr ar agor ar gyfer gwobr Enterprise Nation i Sefydlydd Busnes y Flwyddyn sy’n fenyw. Mae hwn yn gyfle nid yn unig i ddathlu sefydlydd busnes newydd gwych ond hefyd i roi gwobrau anhygoel i’r enillydd er mwyn hybu’r busnes.

Mae Enterprise Nation yn chwilio am gystadleuwyr gyda gweledigaeth glir o gyfeiriad eu busnes newydd – a chynlluniau uchelgeisiol ar gyfer tyfu!

Ydy hyn yn debyg i chi neu rywun rydych chi’n ei ‘nabod?

Yna, gwnewch gais neu enwebwch yma.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 5pm ar 7 Hydref 2020.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Enterprise Nation.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.