BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

The Circuit – y rhwydwaith diffibrilwyr cenedlaethol

Mae gwasanaethau brys ac elusennau yn annog busnesau ledled Cymru sy'n berchen ar ddiffibrilwyr i gofrestru eu dyfeisiau ar fas data cenedlaethol arloesol o'r enw The Circuit.

Nod The Circuit yw mapio pob diffibriliwr mynediad cyhoeddus, felly pan fydd rhywun yn cael ataliad y galon, gall trinwyr galwadau 999 gyfeirio pobl gerllaw at y diffibriliwr cofrestredig agosaf wrth aros i'r ambiwlans gyrraedd. 

  • Mae tua 2,800 achos o ataliadau’r galon y tu allan i'r ysbyty (OHCA) yng Nghymru bob blwyddyn, ond dim ond 1 o bob 20 o bobl sy'n goroesi.
  • Mae pob munud heb ddadebru cardio-pwlmonaidd (CPR) a diffibriliad yn lleihau'r siawns o oroesi hyd at 10 y cant,
  • Mae CPR cynnar a diffibriliad yn gallu mwy na dyblu'r siawns o oroesi.
  • Amcangyfrifir bod diffibrilwyr mynediad cyhoeddus (PADs) yn cael eu defnyddio mewn llai na 10 y cant o ataliadau’r galon y tu allan i'r ysbyty ledled y DU. 

Er mwyn gwella cyfraddau goroesi, mae Sefydliad Prydeinig y Galon (BHF), Resuscitation Council UK (RCUK) Ambiwlans Sant Ioan, a Chymdeithas y Prif Weithredwyr Ambiwlans (AACE) wedi dod ynghyd i gyflwyno The Circuit: y rhwydwaith diffibrilwyr cenedlaethol. 

I gael rhagor o wybodaeth ac i gofrestru eich diffibriliwr, ewch i https://www.thecircuit.uk/
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.