BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cludwyr arbenigol y diwydiant cerddoriaeth fyw a theithio yn cael symud yn fwy rhydd rhwng Prydain Fawr a'r UE

Cyhoeddodd Llywodraeth y DU y bydd cludwyr sy'n gwasanaethu cyngherddau cerddoriaeth, chwaraeon a digwyddiadau diwylliannol yn gallu symud eu cerbydau'n rhydd rhwng Prydain Fawr a'r UE, diolch i fesurau newydd ar gyfer y sector cludo

Wedi'i gynllunio mewn ymgynghoriad â'r sectorau cerddoriaeth fyw, y celfyddydau perfformio a chwaraeon, disgwylir i'r mesur cofrestru deuol newydd ddod i rym o ddiwedd yr haf 2022. Bydd yn berthnasol i gludwyr arbenigol sy'n cludo offer ar gyfer digwyddiadau diwylliannol, megis teithiau cyngherddau neu ddigwyddiadau chwaraeon. 

Bydd cofrestru deuol yn golygu y bydd gyrwyr sydd â chanolfan sefydledig ym Mhrydain Fawr ac mewn gwlad arall y tu allan i'r DU yn gallu trosglwyddo eu cerbyd rhwng y ddwy drwydded gweithredwr heb fod angen newid cerbydau, heb gyfyngu ar eu teithiau na thalu treth cerbyd (VED) ym Mhrydain Fawr.  

I gael mwy o wybodaeth ewch i Major boost for live music and touring industry specialist hauliers to move more freely between countries - GOV.UK (www.gov.uk)
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.