BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi

A oeddech chi'n gwybod bod dros 450 o sefydliadau wedi ymuno â Chod Ymarfer Llywodraeth Cymru ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi erbyn mis Rhagfyr 2022? 

Ers lansio'r Cod yn 2017, mae nifer y sefydliadau sy'n cofrestru wedi cynyddu'n gyson. Mae’r llofnodwyr yn cynrychioli ystod eang o sectorau. Mae'r rhain yn cynnwys cyrff cyhoeddus, sefydliadau'r trydydd sector, a busnesau o sectorau mor amrywiol ag adeiladu, gofal iechyd, gwasanaethau glanhau, a chynhyrchu teledu a ffilm. 

Beth mae cofrestru ar gyfer y Cod yn ei olygu?

Mae'n golygu bod eich sefydliad wedi cytuno i gadw at 12 ymrwymiad y Cod sy'n mynd i'r afael ag arferion anfoesegol ac anghyfreithlon, megis ecsbloetio llafur, cosbrestru, hunangyflogaeth ffug, a defnydd annheg o gontractau dim oriau. 

Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i holl sefydliadau'r sector cyhoeddus, busnesau a sefydliadau'r trydydd sector sy'n cael arian o'r sector cyhoeddus ymrwymo i'r Cod Ymarfer hwn. Rydym hefyd yn annog sefydliadau eraill sy'n gweithredu yng Nghymru o unrhyw sector i gofrestru. Mae gwybodaeth a chanllawiau ychwanegol ar gael yma.

Os yw eich sefydliad am gofrestru ar gyfer y Cod ac os oes gennych unrhyw ymholiadau eraill, cysylltwch â PolisiMasnachol@llyw.cymru
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.