BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Codi rhwystr rhag cyflogaeth i filoedd o gyn-droseddwyr

Hiring employee

Bydd cyn-droseddwyr yn ei chael hi’n haws dod o hyd i waith a newid cyfeiriad eu bywyd rhag troseddu, yn dilyn newid yn y gyfraith.

Mae’r newidiadau hyn yn lleihau’n sylweddol yr amser y mae angen i bobl ag euogfarnau troseddol eu datgelu’n gyfreithiol i’r rhan fwyaf o gyflogwyr posibl ar ôl cwblhau eu dedfryd ac wrth wneud cais am gyrsiau, yswiriant a thai.

O dan y rheolau blaenorol, roedd angen i rai troseddwyr ddatgelu eu dedfrydau am weddill eu bywyd, hyd yn oed ar gyfer troseddau a gyflawnwyd ddegawdau ynghynt, a oedd yn rhwystr sylweddol iddynt rhag cael swydd ac ailadeiladu eu bywyd.

Nawr, bydd dedfrydau o garchar am bedair blynedd neu fwy am droseddau llai difrifol ‘wedi darfod’ ymhen cyfnod saith mlynedd o adsefydlu, ar yr amod na chyflawnir unrhyw drosedd bellach.

Nid yw troseddwyr sydd wedi cyflawni troseddau rhywiol, treisgar neu derfysgaeth ddifrifol yn cael eu cynnwys yn y newidiadau hyn er mwyn sicrhau nad yw’r newidiadau’n arwain at fwy o risg i’r cyhoedd.

Bydd rheolau datgelu mwy caeth yn parhau i fod yn berthnasol i swyddi sy’n cynnwys gweithio gyda phobl agored i niwed, trwy wiriadau safonol a manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).

Daeth y diwygiadau i rym ddydd Sadwrn (28 Hydref 2023) o dan Ddeddf yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd 2022. 

Mae arbenigwyr pwrpasol ar swyddi wedi cael eu recriwtio i bob carchar ailsefydlu yng Nghymru a Lloegr, ac mae’r Gwasanaeth Carchardai wedi bod yn cynnal ffeiriau swyddi “Datgloi”, sy’n helpu i baru pobl sy’n gadael y carchar â chyflogwyr posibl mewn sectorau sy’n amrywio o letygarwch i adeiladu.

I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Barrier to employment lifted for thousands of ex-offenders - GOV.UK 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.