BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cofrestr WaterSafe i blymwyr

WaterSafe yw'r gofrestr genedlaethol o blymwyr cymeradwy. Mae ganddi gefnogaeth holl gwmnïau dŵr y DU, gan gynnwys Dŵr Cymru, a'r rheoleiddiwr dŵr yfed.

Cafodd ei sefydlu i hyrwyddo plymwyr medrus er mwyn helpu i gadw dŵr yfed Cymru’n ddiogel a’i amddiffyn rhag difwyniad.

Mae holl Blymwyr Cymeradwy WaterSafe wedi cael hyfforddiant penodol ac wedi ennill cymwysterau'r Rheoliadau Cyflenwi Dŵr (Ffitiadau Dŵr) 1999.

Ac am fod rhaid i bob eiddo sy'n cael eu cyflenwadau gan Ddŵr Cymru gydymffurfio â'r rheoliadau hyn, mae'r cwmni'n annog ei holl gwsmeriaid i ddefnyddio plymwyr WaterSafe.

Beth yw manteision bod yn aelod o WaterSafe?

  • hyrwyddo a brandio am ddim - bydd eich enw’n ymddangos yn y cyfeirlyfr ar-lein mwyaf o blymwyr cymeradwy yn y DU, y mae Dŵr Cymru'n ei hyrwyddo i'w dair miliwn o gwsmeriaid
  • sicrwydd i gwsmeriaid – eich bod chi'n gymwys i weithio gyda dŵr yfed a bod gennych gefnogaeth Dŵr Cymru a'r rheoleiddiwr dŵr yfed
  • cysylltiad uniongyrchol â Dŵr Cymru - i'n hysbysu ni am waith plymio a chael cyngor am ddim ar y rheoliadau a'r is-ddeddfau dŵr

Felly, cymrwch y blaen ar eich cystadleuwyr a chyrraedd mwy o gwsmeriaid.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Dŵr Cymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.